Ring Round The Moon

Derbyn gwahoddiad GRŴP THEATR PHOENIX LLANELLI i Ddawns mewn Chateau Ffrengig rhamantus.

Mae "Charade with Music" gan Christopher Fry a Jean Anouilh yn canolbwyntio ar ddau frawd cyfoethog sy'n cystadlu i ennill calon yr un fenyw ifanc hardd, i gyd o dan lygad barcud eu hen fodryb ddoeth.

Mae RING ROUND THE MOON yn gymysgedd egnïol o gomedi, drama a rhamant, noson o gamgymryd pobl am eraill a charwriaethau annoeth sy'n llawn swyn a ffraethineb: dihangfa ysblennydd lle mae straeon tylwyth teg yn dod yn wir.

O dan gyfaredd y lloer a disgleirdeb y sêr, cymerwch eich sedd ar garwsél serch a dihangwch i fyd hudolus yn y gomedi ysgafn bleserus hon.

Byddwch yn barod am noson o ddawnsio GRŴP THEATR PHOENIX yn RING ROUND THE MOON.

Tocynnau | £13, Grwp 10+ £11 + 1 am ddim

Info Cyflym

  • Cwmni: PHOENIX THEATRE GROUP
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni

Info Cyflym

  • Cwmni: PHOENIX THEATRE GROUP
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni