Stars and their Consolations
Adverse Camber productions
Daniel Morden, Hugh Lupton a Sarah Lianne Lewis
Straeon am y sêr wedi'u hadrodd i drac sain electro-acwstig. Ail-ddychmygu mawreddog, personol a hypnotig o chwedlau Groegaidd sy'n cyfuno straeon hynafol, tafluniadau cosmig a seinwedd electro-acwstig iasol.
Teithiwch i awyr y nos gyda straeon sydd wedi goleuo'r tywyllwch ers miloedd o flynyddoedd.
Daw chwedlau Groegaidd o gytserau yn fyw gan ddau o fawrion adrodd straeon y DU, Hugh Lupton a Daniel Morden. Dewch i brofi straeon pwerus, hynafol gyda seinwedd electro-acwstig gyffrous gan y cyfansoddwr Sarah Lianne Lewis a thafluniad cosmig. Plymiwch i antur gyfareddol a gwirioneddol hudolus. Gwyliwch y duwiau’n chwarae'n ddidrugaredd gyda marwolion gyda straeon o chwant, balchder ac angerdd. Bydd y cyfan yn eich gadael ar bigau’r draen eisiau darganfod mwy...
Daw awyr y nos epig â phersbectif cosmig, tragwyddol i drafferthion dynol, gan gynnig cysur sy’n fawr ei angen yn y dydd sydd ohoni.
Yn addas i’r rheiny sy’n 14+ oed
Rhybudd Cynnwys: Mae straeon duwiau a marwolion yn cynnwys cyfeiriadau at fygythiad, trais a thrais rhywiol
Gyda chefnogaeth Theatrau Sir Gâr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Colwinston, Ymddiriedolaeth Darkley, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Prosiect Nos a People Speak Up.
Comisiynwyd Stars and their Consolations yn wreiddiol ar gyfer Beyond the Border 2021 a chefnogwyd y cyfnod ymchwil a datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Thŷ Cerdd gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr.
Yr hyn a ddywedodd cynulleidfaoedd o'r blaen..
"Fe wnaeth fy nenu o'r cychwyn cyntaf, cefais fy nghyfareddu’n llwyr."
"Cefais fy syfrdanu gan y gwaith – mi roedd yn gwbl ysbrydoledig."
"Fe wnaeth i mi fod eisiau darganfod mwy am y chwedlau y tu ôl i'r straeon... byddaf yn chwilio amdanynt!"
Tocynnau | £14.50 & £12.50
- 21 Maw, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Adverse Camber
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni

Info Cyflym
- Cwmni: Adverse Camber
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
