The Bon Jovi Experience
Byddwch yn barod am daith roc fythgofiadwy gyda'r unig sioe i gael ei chymeradwyo gan Jon Bon Jovi ei hun!
Dewch i fwynhau dathliad anhygoel o glasuron bytholwyrdd Bon Jovi wrth i The Bon Jovi Experience ail-greu'r oes arbennig mewn ffordd wefreiddiol, gan fynd â chi yn ôl i anterth roc stadiwm.
Mae The Bon Jovi Experience yn cynnwys caneuon poblogaidd fel 'Livin' On a Prayer,' 'Always', 'It's My Life', 'You Give Love a Bad Name', 'Bad Medicine' a llawer mwy. Mae eu cerddorion talentog a'u prif ganwr carismatig, Tony Pearce, yn cyflwyno gwledd roc a rôl go iawn ac egnïol a fydd yn gwneud i chi ganu a dawnsio drwy'r nos!
P'un a ydych chi'n dwlu ar Bon Jovi ers blynyddoedd neu'n gefnogwr newydd sydd am gael noson allan fythgofiadwy, bydd y sioe hon yn brofiad hollol unigryw!
“The best Bon Jovi tribute band I’ve ever watched” - Jon Bon Jovi
“Have you seen this guy? He looks so much like Jon Bon Jovi, it’s freaky man!” - Chad Kroeger, Nickelback
“The Bon Jovi Experience are not only half way there, they’ve finally made it” – Outline Magazine
Tocynnau | £28
- 18 Ebr, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Prestige Productions
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym
- Cwmni: Prestige Productions
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
