The Chimes: Dickens On Air | Glowyr

Lighthouse Theatre a Chanolfan Gelfyddydau Pontardawe yn cyflwyno WAFR:

Playhouse of the Air in The Chimes: Dickens on Air

'A Festive Story to Ring the Old Year Out and the New Year In.'

Mae'n Nadolig 1950 yn Efrog Newydd ac mae actorion WAFR: Playhouse of the Air yn ym-gynnull ar gyfer eu darllediad Nadoligaidd blynyddol... Mae yna lywodraeth newydd, gobaith newydd, byd newydd, felly beth well na drama newydd? Ac nid oes gwell storïwr na Charles Dickens - ac nid oes dyn gwell i anrhydeddu’r Nadolig nag ef!

Mae Trotty Veck yn borthor tocynnau – dyn sy'n cario pecynnau, llythyrau a nwyddau am ych-ydig arian yma ac acw. Nid oes ganddo lawer ond mae'n hapus, yn addfwyn ac yn byw bywyd syml, ufudd.

Yn gefndir i’w fywyd mae sŵn clychau ei eglwys leol – brecwast, cinio, swper - y cyfan wrth glywed sŵn y clychau. Weithiau mae hyd yn oed yn eu clywed yn siarad ag ef…

Yn y cyfnod yn arwain at dymor yr ŵyl mae Trotty yn cwympo i gysgu ar ôl diwrnod hir o gario a dosbarthu. Mae'n cael ei ddeffro gan glychau'r eglwys, The Chimes, ac yna'n cael ei alw i fyny'r tŵr gan eu pŵer dirgel, dim ond un cyfle sydd ganddo i newid y byd... ond a fydd yn gwrando ar y clychau?

Mae The Chimes yn ymdebygu i fersiwn Fictoraidd o It's a Wonderful Life sy'n llawn holl gym-eriadau lliwgar a theimladwy y storïwr crefftus ei hun.

Yn dilyn eu haddasiadau hynod boblogaidd o A Christmas Carol a Casablanca, mae Lighthouse Theatre yn dod â'u harddull dramâu radio byw nodweddiadol i'r clasur hwn gan un o'r awduron mwyaf theatrig. Bydd carolau a cherddoriaeth ac – wrth gwrs – clychau... Mae'r sioe hon yn sicr o fod yn gyflym ac yn ddoniol, yn ddyfeisgar ac yn ddifyr; ond yn bennaf oll clasur y Nadolig i atgyfnerthu neges yr ŵyl ar yr adeg hon o'r flwyddyn…

Argymhellir ar gyfer oedran 10 oed a hŷn.

Cyflwynir ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru

Dehongliad BSL gan Anthony Evans
Disgrifiad sain a thaith cyffwrdd ar gael 

Tocynnau: £17.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Lighthouse Theatre
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Glowyr, Rhydaman | Ammanford

Info Cyflym

  • Cwmni: Lighthouse Theatre
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Glowyr, Rhydaman | Ammanford