The Dazzling Diamonds - Comedy Drag Show
Yn syth o lwyfan y West End yn Llundain mae The Dazzling Diamonds yn falch o gyflwyno eu sioe adloniant drag boblogaidd.
Nid sioe gyffredin mo hon - mae'r "merched" hyn yn cyflwyno sioe llawn chwerthin na welsoch ei thebyg o'r blaen.
Yn cynnwys cast o dri pherfformiwr rhyngwladol o fri, mae'r sioe yn gymysgedd disglair o gomedi gwych, lleisiau byw anhygoel a dawnsio gwefreiddiol. Gallwch ddisgwyl caneuon eiconig gan Tina Turner, Adele, Lady Gaga, Elton John, a llawer mwy - er ddim yn union fel y gwelsoch chi nhw o'r blaen!
Wrth ddechrau ar eu trydedd daith a'u taith fwyaf hyd yn hyn, mae The Dazzling Diamonds yn dod â sioe newydd sbon ddoniol iawn sy’n llawn caneuon y mae cynulleidfaoedd wedi dod i'w hadnabod a'u caru. Maen nhw wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ym mhobman, gyda phawb wrth eu bodd yn chwerthin nes iddynt grio ac yn rhoi cymeradwyaeth nos ar ôl nos. Peidiwch â cholli'ch cyfle i weld pam mae cynulleidfaoedd yn galw hon "y noson fwyaf doniol ar daith.”
Felly, dewch gyda'ch ffrindiau, ewch i dwrio am eich secwins, a pharatowch am noson o sbloets, glamor ac adloniant di-stop. Mae The Dazzling Diamonds yma i ddisgleirio - a chredwch ni, byddwch chi ddim am golli eiliad.
Oedran a argymhellir: 14+
Hyd: 2 awr 15 munud, gan gynnwys egwyl
Tocynnau | £28.50 & £25.50
- 13 Maw, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Dazzling Entertainment
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym
- Cwmni: Dazzling Entertainment
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
