The Impossible Island of Flabbergast
Antur Wyllt Wych i Greaduriaid Chwilfrydig o Bob Oed
Camwch i fyd yr hyn sy'n anghredadwy, yn anesboniadwy, ac sydd ychydig yn wirion. Rydych chi'n cael eich gwahodd ar anhap anhygoel i chwilio am y lle anoddaf dod o hyd iddo o'r holl fythau a chwedlau, a all fod yn gudd rhwng atgofion ddoe a brecwast yfory... The Impossible Island of Flabbergast.
Mae Juniper a Delphi sy'n ffrindiau gorau wedi creu eu byd rhyfeddol eu hunain, ond beth sy'n digwydd pan na allant fod gyda'i gilydd mwyach?
Ewch wysg eich pen i diroedd newydd, lle mae rhesymeg â'i phen i lawr, a nonsens hurt yn bodoli. Byddwch chi'n dod ar draws bwystfilod rhyfeddol, penderfyniadau amhosibl, ac yn dod wyneb yn wyneb â rhywbeth sy'n rhyfedd o gyfarwydd. Yn llawn cerddoriaeth fyw, hwyl ryngweithiol, a chyfuniad nodweddiadol Flossy a Boo o gomedi clyfar ac awyrgylch anhrefnus, dyma sioe sy'n gofyn: Beth pe bai'r amhosibl yn rhywbeth nad oedd neb wedi rhoi cynnig arno eto?
Sioe sy'n addas i deuluoedd ac sy'n cael ei hargymell i'r rhai 5+ ond mae croeso i bawb.
Hud: 45 munud
Bydd gweithdy crefftau am ddim ar ôl y perfformiad.
Tocynnau: £6.50
- 2 Ebr, 14:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Flossy and Boo
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
Info Cyflym
- Cwmni: Flossy and Boo
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni