The Mersey Beatles

Ydych chi'n hoff iawn o'r Beatles? Byddwch yn barod i gael eich rhyfeddu gan berfformiad yn talu teyrnged i'r 'Fab Four' gan hoff fand teyrnged y byd o Lerpwl.

Mae The Mersey Beatles wedi bod yn perfformio sioeau nodedig, hynod o lwyddiannus ledled y byd ers 1999 gan ddathlu John, Paul, George a Ringo.

Mae'r band – sydd wedi gwneud mwy na 600 o ymddangosiadau mewn 10 mlynedd yng nghlwb enwog Lerpwl, Cavern Club – yn llwyddo i gyfleu ysbryd y 'Fab Four' gwreiddiol. O'r gwisgoedd, yr offerynnau, hiwmor ffraeth y Sgows ac, wrth gwrs, sain enwog y band o Ferswy, mae sioe fyw drawiadol The Mersey Beatles yn ddathliad godidog llawn caneuon gorau o'r gerddoriaeth a newidiodd y byd.

Byddwch yn mynd ar daith wych drwy ganeuon gorau'r Beatles, creadigrwydd seicedelig yr albwm Sgt Pepper a gwaith rhyfeddol y 'Fab Four' yn hwyrach yn eu gyrfa.

Felly dewch yn llu i'r sioe arbennig hon – byddwch yn siŵr o gael amser gwych!


"The best Beatles tribute band around” - The British Beatles Fan Club


Tocynnau | £28

Info Cyflym

  • Cwmni: Rhodes Media
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Rhodes Media
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli