The Utterly Revolting Science Show

Y sioe styntiau gwyddoniaeth wych, doniol a hynod ffrwydrol. 

Byddwch yn barod am daith newydd dra-ffrwydrol, uwch-dechnolegol a gwirioneddol ddoniol y tîm Rude Science drwy'r corff dynol - yn llawn dop o fioleg torri gwynt, ffiseg rhechfeydd a chemeg bwytadwy ych-a-fi. Gallwch ddisgwyl pen-olau enfawr, tân gwyllt bwytadwy, peiriannau torri gwynt a rhech fwyaf uchel y byd yn y sioe wyddoniaeth dros ben llestri hon. 

Ar yr wyneb mae'n bla o arbrofion afiach wedi'u cynllunio i swyno cynulleidfaoedd ifanc ond o dan y boned mae'n antur wych sy'n cael ei sbarduno gan y cwricwlwm, wedi'i chynllunio i ysbrydoli plant Prydain i ymddiddori'n barhaus mewn gwyddoniaeth. Syniad Stefan Gates yw'r sioe, sef cyflwynydd egnïol 20 o gyfresi teledu (pump ar gyfer CBBC), awdur llwyddiannus 13 o lyfrau (gan gynnwys Rude Science) a chynhyrchydd byd-enwog sioeau llwyfan gwyddonol gorau'r byd. 

Rhybuddion: Bangs uchel, cyfranogiad y gynulleidfa, balwnau latecs, niwl llwyfan, samplau bwytadwy. Nid yw'r sioe hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd ag alergeddau latecs. Ymddiheuriadau. 

Canllaw oedran: 5 – 105 

Brilliant! Spectacular, hilarious and packed with fascinating science’ - (Marieke Navin, Head of Cheltenham Science Festival)

Tocynnau | £17.50 & £15.50

Eistedd ar Liniau
Os ydych chi'n dod â phlentyn 18 mis oed neu iau, gall fynd gyda chi am ddim os ydych chi'n dewis y tocyn eistedd ar liniau. Sylwer, dim ond ar y llawr gwaelod y gall plant eistedd ar liniau oedolion.

Info Cyflym

  • Cwmni: Cross Platform TV
  • Categori: Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Cross Platform TV
  • Categori: Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli