There Was An Old Lady Who Swallowed a Fly | Ffwrnes

Mi wn am hen wreigan a lyncodd bry.

Dw i ddim yn gwybod pam y llyncodd hi bry...

Ond mae The People’s Theatre Company yn gwybod!


A bellach gallwch chithau wybod hefyd, wrth iddynt gyflwyno o'r newydd hwiangerdd fwyaf poblogaidd y byd, a hynny mewn pryd i ddathlu hanner canmlwyddiant llyfr mwyaf poblogaidd Pam Adams!

Yn yr addasiad llwyfan hudolus hwn, mae estroniaid o blaned bell wedi cwymplanio ar y ddaear ac mae angen ein help arnyn nhw i fynd adref. Ond mae 'na broblem. Mae eu roced yn rhedeg ar straeon, nid tanwydd, a dim ond y stori fwyaf yn y bydysawd fydd yn ddigon i'w hachub!

Gyda chyfuniad hudolus o antur fyw, animeiddio a phypedwaith, mae'r ail-adrodd hudolus hwn oThere Was An Old Lady Who Swallowed A Fly yn sicr o synnu a swyno plant ac oedolion yn gyfartal.

Nawr gallwch wrando ar ganeuon y sioe, gan gynnwys If You're Happy a You Know It, Incy Wincy Spider a llawer mwy ynwww.ptc.org.uk a chanu wrth ymweld â'r theatr!

"A great introduction to the theatre with just the right balance of sitting listening and taking part★★★★★" Bristol Guide

"Thoroughly entertaining and brilliant fun. ★★★★★" - Patricia Goodwin, What's on Stage

"A lovely take on the nursery rhyme with lots of interaction. A truly magical 60 minutes." ★★★★★ - Andrea Murphy

I bawb 3-103 oed!


Tocynnau | £12.50 | £10.50 & £42

Info Cyflym

  • Cwmni: The People's Theatre Company
  • Categori: Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: The People's Theatre Company
  • Categori: Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli