Tommy Cooper - Have I Got Time for More?
Cynhyrchiad newydd sbon gan y tîm a gyflwynodd Steptoe & Son i chi!
Mae Tommy Cooper, un o'r comedïwyr gorau erioed, yn ôl! Dyma berfformiad medrus gan Phil Hoyles – prif ddynwaredwr y DU – ac mae'n dod â'r holl ddwli, jôcs, caneuon, chwerthin, hud, hud sy'n methu, ac egni a gyflwynodd y dyn doniol gwreiddiol yr holl flynyddoedd hynny yn ôl!
Mae'r cylchgrawn theatr enwog The Stage yn disgrifio portread Phil fel "a carbon copy in look, voice and humour" a "as near to the genuine article as you can get"! Mae'n dal, yn ddoniol ac mae'n gwisgo ffès – y cyfan oll sydd ei angen arnon ni yw chi!
Dewch draw ac ymunwch â ni am noson o hel atgofion a chwerthin yn braf. Mae'r sioe hon hefyd yn cael ei chynhyrchu gan Cattle Productions Ltd, sy'n arbennig am adfywio ac ail-greu comedi clasurol, gan sicrhau nad yw'r gwir eiconau hyn byth yn cael eu hanghofio.
Bydd elw o'r sioe hon yn mynd tuag at gefnogi elusen, Cerebra, sy'n helpu plant â chyflyrau'r ymennydd a'u teuluoedd i ddarganfod bywyd gwell gyda'i gilydd.
Tocynnau: £23.50
- 6 Maw, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Cattle Productions
- Categori: Drama
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Cattle Productions
- Categori: Drama
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen