Triawd Gwilym Bowen Rhys Trio

Mae Gwilym Bowen Rhys wedi sefydlu ei hun fel llysgennad teilwng dros y Gymraeg a chanu, gartref yng Nghymru ac ar draws y byd hefyd. Cafodd hyn ei gadarnhau gan ei enwebiad ar gyfer Gwobr Canwr Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2. Mae Gwilym wedi bod yn canu yn Gymraeg ers iddo allu cofio, sy’n rhoi iddo fo gysylltiad dwfn gyda chaneuon a cherddoriaeth traddodiadol.

Perfformio fel triawd, gyda Patrick Rimes ar ffidil (Calan, VRi, ALAW) a Gwen Mairi ar delyn, mae caneuon Gwilym yn cael eu cyflwyno mewn trefniadau agos-atoch ac ystyriol, ond hefyd yn bwerus ac yn egniol, gan dynnu o'r traddodiad cyfoethog gwerin Cymru tra'n aros yn hollol gyfoes.

Cefnogaeth - Elin a Carys

Mae Elin a Carys yn chwiorydd a’u harmonïau agos a threfniadau o ganeuon gwerin a chaneuon gwreiddiol yn tynnu ar eu magwraeth gerddorol a thirweddau Canolbarth Cymru. Mae Elin a Carys yn plethu gitâr, piano, banjo, ffidil, acordion a chwibanau i'w perfformiadau, ac maen nhw newydd rhyddhau eu EP cyntaf o'r enw 'Hela'r dryw' gyda Recordiadau Sain.

Tocynnau £17

Info Cyflym

  • Cwmni: Trac Cymru
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni

Info Cyflym

  • Cwmni: Trac Cymru
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni