Cyfleoedd

Clyweliadau Ensemble Iau – Dick Whittington

Yn galw ar bob perfformiwr ifanc!

Ydych chi'n dwlu ar ddawnsio? Ydych chi'n dwlu ar berfformio? Os felly, dewch i un o'n clyweliadau agored sy'n cael eu cynnal er mwyn dod o hyd i ddawnswyr ifanc ar gyfer ein pantomeim hudol, Dick Whittington, yn y Theatr y Lyric, Caerfyrddin.

Cynhelir y clyweliadau dydd Sul 5 Gorffennaf yn y Theatr y Lyric, Caerfyrddin.

Mae'r clyweliadau'n agored i bob plentyn 9 i 16 oed a fydd ym mlynyddoedd ysgol 4 i 11 yn ystod y cynhyrchiad.

Mae'r clyweliadau'n dechrau am 1pm gyda chofrestru am 12:30pm

I gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at theatrau@sirgar.gov.uk

Dick Whittington