A Country Night in Nashville
**Nodwch mai dyddiad a aildrefnwyd yw hwn ar gyfer 2021. Bydd tocynnau ar gyfer y dyddiad gwreiddiol yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig i'r dyddiad newydd hwn a bydd y theatr yn cysylltu â'r bobl hynny sydd â thocynnau**Bydd Noson A Country Night In Nashville yn ail-greu golygfa canu Honky Tonk yn Nashville, ac yn cyfleu egni ac awyrgylch noson yng nghartref canu gwlad.
Paratowch i fynd ar siwrnai gerddorol drwy hanes canu gwlad yn cynnwys caneuon gan rai o'r sêr mwyaf o'r gorffennol a'r presennol. Bydd yn gyfle i glywed caneuon enwog Johnny Cash, Alan Jackson, Dolly, Dixie Chicks, Willie Nelson, Little Big Town wedi'u canu'n wych gan Dominic Halpin a'r Hurricanes.
Bydd y caneuon yn cynnwys Ring Of Fire, Crazy, Follow Your Arrow, It’s Five O’Clock Somewhere, Need You Now, 9-5, a The Gambler i enwi ond ychydig. Dyma noson anhygoel o ddathlu canu gwlad - peidiwch â'i cholli.
Dyddiadau Sioe
- 12 Mehefin, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Handshake Ltd
- Categori: LIVE MUSIC
- Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym
- Cwmni: Handshake Ltd
- Categori: LIVE MUSIC
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
