A Midsummer Night's Dream
Mae Flabbergast Theatre, sydd wedi ennill gwobrau, yn cyflwyno fersiwn hwyliog o gomedi boblogaidd Shakespeare, A Midsummer Night's Dream. Mae coblynnod ac ellyllon yn rhedeg yn wyllt wrth i Frenin a Brenhines y Tylwyth Teg ddatrys ffrae sy'n achosi anhrefn ymhlith y bobl sydd wedi’u dal yn eu cynlluniau.
Mae'r digwyddiadau yn canolbwyntio ar griw o berfformwyr sy'n teithio gyda'u hen wagen hardd, ac yn chwarae sawl rôl ac yn dod â'r byd yn fyw gyda llawenydd a chyffro.
Mae caneuon gwerin Arcadaidd, comedi slapstic a gwaith mwgwd, ynghyd â pharch at y testun, agwedd amharchus a ffocws ar adrodd straeon, yn dod â hud canol haf yn fyw gyda chomedi gorfforol, cân a dawns.
Tocynnau: £22 | £20 | £71.20 (Teulu x4)
Grwpiau o 10+ (gan gynnwys ysgolion) £17. Cysylltwch â'r Sywddfa Tocynnau ar 03452263510 neu theatrau@sirgar.gov.uk
- 6 Mai, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Flabbergast Theatre
- Categori: Drama
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Flabbergast Theatre
- Categori: Drama
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen