Blaidd
Flossy a Boo yn cyflwyno -Blaidd
Udwch ar y lleuad a llamu’n wyllt gyda'ch cnud,
Carlamwch i’r coed, troi’ch cefn ar y byd
Anturiwch heb wybod pa beth sy’n eich aros,
Trwy goedwigoedd dychymyg i’n cartref bach clòs.
Mae Blaidd yn brofiad theatr aml-synhwyraidd dwyieithog i blant dan 5 oed a'u teuluoedd. Mae'n canolbwyntio ar adrodd straeon, iaith ac ail-wylltio ein hunain. Mae'r cynhyrchiad hwn yn plethu'n ddi-dor rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Perffaith ar gyfer pobl nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg, siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr Cymraeg ac mae'n wych ar gyfer meddyliau ifanc.
Mae Blaidd yn dilyn stori blaidd wrth iddo deithio drwy ei famwlad, gan ddod ar draws creaduriaid chwedlonol a mynd ar drywydd eu hamgylchoedd. Gan grewyr Ned and the Whale a How to Defeat Monsters (And Get Away With It), paratowch i gael eich swyno gan y profiad theatrig hudolus hwn a fydd yn eich gadael yn udo am fwy!
Cynhyrchiad dwyieithog
Canllaw oed: Perffaith ar gyfer plant 5 oed ac iau, a'u teuluoedd.
Hyd: Tua 1 hwr, 20 munud
Y bwriad yw bod y perfformiad hwn yn un hamddenol a difyr – mae plant bach a'u teuluoedd yn cael eu gwahodd i eistedd ar y llawr i fwynhau'r sioe yn agos. Bydd cadeiriau hefyd ar gael i unrhyw un a hoffai gael sedd fwy cyfforddus.
Tocynnau: £5.50
Mae Theatrau Sir Gâr wedi rhoi cymhorthdal ar gyfer tocynnau i wneud y sioe hon yn fforddiadwy i deuluoedd.
- 2 Hyd, 11:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Flossy and Boo
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni

Info Cyflym
- Cwmni: Flossy and Boo
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
