Brenin March - Lyric

Cwmni Mega yn cyflwyno 

BRENIN MARCH 

Oes ganddoch chi gyfrinach? Ydych chi wedi dweud wrth unrhyw un beth yw’ch cyfrinach? Wel naddo gobeithio achos fydde hi ddim yn gyfrinach wedyn na fydde hi? Dweud wrth un, dweud wrth bawb! 

Wel dyma i chi hanes rhywun sydd â chyfrinach fawr – Y Brenin March. Ofn mawr y Brenin yw bod pawb yn dod i wybod am ei gyfrinach a’u bod am wneud hwyl am ei ben am byth! 

Chi’n gweld, mae gan y Brenin glustiau ceffyl!! Mae ganddo gywilydd mawr ohonyn nhw ac yn eu cuddio drwy’r dydd, bob dydd. Yr unig un arall sydd wedi gweld y clustiau ceffyl yw ei farbwr, Bifan sydd wedi cael ei siarsio i beidio dweud gair am y clustiau wrth neb …BYTH! Mae hyn yn faich anferth ar ysgwyddau Bifan druan. 

Ond a fydd Bifan yn llwyddo cadw’r gyfrinach? Ydi Bev Bifan ei wraig fusneslyd sy’ wrth ei bodd yn clywed clecs y castell am ei dorri? Neu tybed a fydd cariad sbeitlyd y Brenin March, Ledi Gogo a’i ffrind gore Tom Trôns yn ceisio dinistrio’r Brenin ei hun? 

Ac ydi’r cerddor DJ Es, sydd hefyd yn ffrind da i’r Brenin, yn coginio, glanhau, edrych ar ôl ei ddyddiadur, a chadw’r castell yn drefnus, am adael y gath o’r cwd? Dyna’r peth dwetha fydde hi am ei wneud! 

Ond yn fwy na dim, a fydd clustiau ceffyl y Brenin March yn aros yn gyfrinach? 

Oed: 5+ 
Mae’r sioe yn cynnwys golau strobe.

Tocynnau: £12

Sioe Iaith Gymraeg

Archebion ar gyfer ysgolion: cysylltwch â'r swyddfa docynnau i archebu neu gadw tocynnau. E-bostiwch - theatrau@sirgar.gov.uk neu ffoniwch - 0345 226 3510

Info Cyflym

  • Cwmni: Cwmni Mega
  • Categori: Family
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Cwmni Mega
  • Categori: Family
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen