Buddy Holly & The Cricketers
Mae'r sioe drawiadol hon wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd gan gynnwys yng Nghaerdydd, Califfornia, Barking, Bangkok, Swindon a Sweden a bydd yn sicr o ysgogi pawb i ymuno yn y canu ac i ddawnsio yn eu seddi.
Mae'n serennu rhai o actorion a cherddorion gorau yn y DU, gan gynnwys sêr sydd wedi perfformio yng nghynyrchiadau 'Buddy', 'Lennon', 'Forbidden Planet' a 'Jailhouse Rock' yn y West End. Hefyd, honnwyd mai hon oedd act Buddy Holly fwyaf poblogaidd Prydain pan oedd y dynion wedi ymddangos ar raglen BBC One yn fyw ar nos Sadwrn, "The One and Only", a gyflwynwyd gan Graham Norton.
Nid yw'r dynion braidd yn cael cyfle i gymryd anadl, yn sicr, hon yw'r gyngerdd fwyaf gwefreiddiol o'i math. Cewch gyfle i glywed cân ar ôl can - That’ll Be The Day, Peggy Sue, Heartbeat, It Doesn’t Matter Anymore, Raining In My Heart, Oh Boy! – a llawer, llawer mwy.
Pa bynnag adeg o'r flwyddyn yw hi, beth bynnag fo'r esgus i gael parti, gwnewch i'ch calon guro ychydig yn gyflymach drwy ddod i weld y sioe sydd â miloedd o selogion ledled y byd yn dweud: "Dwi ffaelu credu mai nad ef yw'r Buddy go iawn!”
“The audience were dancing in the aisles and roaring for more” The Stage
“Buddy brilliant!” Graham Norton, BBC One
“Fantastic...The best... tremendous night out...I can’t praise the show enough” The Kent and Sussex Courier
“Christmas just wouldn’t be Christmas without Buddy Holly and The Cricketers” Somerset County Gazette
Tocynnau | £23
- 25 Meh, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Simon Fielder Productions
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym
- Cwmni: Simon Fielder Productions
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
