Cher – Strong Enough

**Nodwch mae perfformiad hon yn digwydd ym mis Mawrth 2025**


Strong Enough – Sioe deyrnged wych i Cher

Paratowch ar gyfer noson fythgofiadwy sy'n dathlu seren fyd-eang ac eicon benywaidd, sef Cher.

Yn cynnwys yr holl glasuron, gan gynnwys Turn Back Time, I Found Someone, Believe, Strong Enough, Gypsies, Tramps and Thieves, fersiynau modern o ganeuon ABBA a llawer mwy.

Dyma wledd anhygoel nad ydych chi am ei cholli! Bydd y sioe hon yn mynd â chi ar daith gerddorol o ddyddiau Dark Lady i ddyddiau pyrm yr 80au a chaneuon disgo, wrth i ni 'droi amser yn ôl' a dathlu brenhines pop a roc. 

Mae Strong Enough yn cynnwys 25 o ganeuon enwog, chwe degawd o enwogrwydd a digon o wisgoedd gwahanol i achosi prinder secwins. Gyda band byw llawn a dawnswyr, dewch draw i brofi'r angerdd, y ddawn a'r gliter!

Am fwy o wybodaeth am STRONG ENOUGH, edrychwch ar y wefan ganlynol a'r dolenni cyfryngau cymdeithasol isod:

Gwefan
Facebook 

Twitter 
Instagram 

Tocynnau | £25.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Carlton Entertainment
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Carlton Entertainment
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen