Dick Whittington - Ysgolion | Schools

Mae'r gath mas o'r cwd... Mae Dick Whittington yn dod i'r Lyric yn 2026! 

Bydd y pantomeim teuluol clasurol hwn yn llawn gwisgoedd disglair, caneuon gafaelgar, chwerthin iach, a hen ddigon o ddrygioni panto! 

Ar ôl i Dick sylweddoli ei fod heb yr un geiniog, mae'n dechrau ar daith i Lundain, lle mae'r strydoedd yn llawn aur yn ôl y sôn. Ac, wrth gwrs, mae ei gath ddibynadwy yn ymuno ag ef ar gyfer yr antur hon. 

Gallwch ddisgwyl hwyl tylwyth teg, setiau hudolus, a chast trawiadol, a byddwch chi'n cymeradwyo, yn bwio, ac yn canu o'r dechrau i'r diwedd. 

Archebwch eich tocynnau nawr ar gyfer Dick Whittington yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin — traddodiad hudolus Nadoligaidd nad oes neb am ei golli! 

Yn dilyn llwyddiant Snow White, mae Theatrau Sir Gâr yn falch iawn o gael cefnogaeth Imagine Theatre unwaith eto eleni. 

Rhybudd 
Sylwch y bydd goleuadau strôb, pyrotechneg a mwg theatrig yn cael eu defnyddio yn ystod y perfformiad hwn.

Tocynnau
Disgyblion £12.50. Un tocyn Athro am ddim gyda phob 10 disgybl sy'n mynychu (athrawon ychwanegol £12.50) 
 
Sut i archebu 
Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau i archebu eich tocynnau, e-bostiwch: theatrau@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 0345 2263510.

Info Cyflym

  • Cwmni: Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr Production
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr Production
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen