Drysiau Agored | Open Doors - Ffwrnes
Agor y drysau
AM DDIM - nid oes angen archebu lle, trowch lan!
Dewch i grwydro o amgylch eich theatr leol yr haf hwn, rydyn ni'n agor y drysau i'n theatrau i chi ddod i mewn, crwydro o amgylch a chymryd rhan!
Ymunwch â ni am weithdai creadigol am ddim dan arweiniad artist lleol gwych a chwmnïau celfyddydol, yn ogystal â thaith y tu ôl i'r llenni dan arweiniad ein tîm Technegol talentog.
Gweithdai am ddim:
11 - 11.45 - Gweithdai Creftiau Les gyda Butterfly HQ
12.00 - 12.45 - Adrodd straeon gyda Ceri John Phillips
12.00 - 12.45 – Llinell Barharus gyda Y Tŷ Celf
1.15 - 2.00 – Sessiwn Drama gyda Jo Theatrau Sir Gar
1.15 - 2.00 – Dawns Lilo a Stitch gyda Arts Care Gofal Celf
Taith y tu ôl i'r llenni gyda thîm technegol Theatrau Sir Gâr:
11.15 - 11.45
12.00 - 12.30
12.45 - 13.15
Perfformiad: Daw'r diwrnod i ben gyda sioe hudol am ddim wedi'i pherfformio gan One Moment in Time Stories 2.00 - 3.00
A Necklace of Raindrops
Straeon wedi'u perfformio gyda cherddoriaeth fyw wreiddiol, gair llafar, a theatr fach gyda golygfeydd papur sgrolio. Yn seiliedig ar y llyfr clasurol i blant gan Joan Aiken.
Mae Laura ifanc yn derbyn anrheg pen-blwydd anhygoel - mwclis hudolus sy'n cadw ei pherchennog yn sych hyd yn oed yn y storm law drymaf! Ond un diwrnod mae'n mynd ar goll - sut y bydd hi'n cael y mwclis yn ôl? Dilynwch Laura a'i ffrindiau anifeiliaid ar antur wyllt ar draws cefnforoedd ac anialwch i ddarganfod yr ateb!
Mae gair llafar, pypedwaith cysgodol a darluniau sgrolio hudolus yn cyfuno i ddod â'r stori fythol hon yn fyw i genhedlaeth newydd o wrandawyr. Yn cynnwys sgôr fyw hudolus gyda llinynnau, offerynnau chwyth ac offerynnau taro.
Mae One Moment In Time yn falch iawn o gael caniatâd gan Ystâd Joan Aiken i ailadrodd y stori boblogaidd hon.
Ar gyfer 4 oed a hŷn
- 15 Awst, 11:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Theatrau Sir Gâr
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym
- Cwmni: Theatrau Sir Gâr
- Categori: Family
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
