Drysiau Agored | Open Doors - Glowyr

Agor y drysau

AM DDIM - nid oes angen archebu lle, trowch lan!

Dewch i grwydro o amgylch eich theatr leol Yr haf hwn, rydyn ni'n agor y drysau i'n theatrau i chi ddod i mewn, crwydro o amgylch a chymryd rhan! 

Ymunwch â ni am weithdai creadigol am ddim dan arweiniad artist lleol gwych a chwmnïau celfyddydol, yn ogystal â thaith y tu ôl i'r llenni dan arweiniad ein tîm Technegol talentog. 

Gweithdai am ddim: 

11-11.45: Gweithdai Drama - gyda Mess Up The Mess

12.00 - 12.45: Gweithdai Celf - Parti Glanhawyr Pibellau – gan ACGC

12.00 - 12.45: Gwers ddawnsio Lindy Hop a Jive gyda Tumble Lindy Hop and Jive

1.15 - 2.00: Wings in The Willow, Sessiwn dawns creuadigol gyda Forest Friends Theatre

Taith y tu ôl i'r llenni gyda thîm technegol Theatrau Sir Gâr: 

11.15 - 11.45 
12.00 - 12.30 
12.45 - 13.15 

Perfformiad:  The Botanists 

Daw'r diwrnod i ben gyda sioe hudol am ddim wedi'i pherfformio gan Flossy a Boo 2.00 - 3.00pm

Camwch i fyd o ryfeddod botanegol gyda Myrtle a Moss, dau fotanegydd anturus sydd ar drywydd i ddarganfod y planhigion newydd gorau. Ymunwch â nhw ar daith gyffrous a rhyngweithiol, wrth iddynt gynnal arbrofion gwyddonol pwysig iawn. Mae'r profiad theatr hudolus hwn yn ffordd berffaith o gael hwyl, chwarae gemau, a dod o hyd i’r planhigion newydd prinnaf! 

Mae Flossy a Boo yn dychwelyd gyda'u brand hudolus o adrodd straeon, yn llawn llawenydd sy’n addas i bob oedran.

AM DDIM

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatrau Sir Gâr
  • Categori: Family
  • Theatr: Glowyr

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatrau Sir Gâr
  • Categori: Family
  • Theatr: Glowyr