Drysiau Agored | Open Doors - Lyric
Agor y drysau
AM DDIM - nid oes angen archebu lle, trowch lan!
Dewch i grwydro o amgylch eich theatr leol yr haf hwn, rydyn ni'n agor y drysau i'n theatrau i chi ddod i mewn, crwydro o amgylch a chymryd rhan!
Ymunwch â ni am weithdai creadigol am ddim dan arweiniad artist lleol gwych a chwmnïau celfyddydol, yn ogystal â thaith y tu ôl i'r llenni dan arweiniad ein tîm Technegol talentog.
Gweithdai am ddim:
11-11.45 - Celf a Chrefft - Bysedd creadigol gyda People Speak Up
11 - 11.45 - Gweithdai cerddoriaeth gyda Music Factory Wales
12.00 - 12.45 - Adrodd straeon gyda Ceri John Phillips
12.00 - 12.45 - Gwers ddawnsio Lindy Hop a Jive gyda Tumble Lindy Hop and Jive
1.15 - 2.00 - Crefft blodau a gwneud pypedau Draig gyda Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin
1.15 - 2.00 - Gwneud masgiau gyda Criwdem Celf
Taith y tu ôl i'r llenni gyda thîm technegol Theatrau Sir Gâr:
11.15 - 11.45
12.00 - 12.30
12.45 - 13.15
Perfformiad: The Botanists
Daw'r diwrnod i ben gyda sioe hudol am ddim wedi'i pherfformio gan Flossy a Boo
2.00 - 3.00pm - The Botanists
Camwch i fyd o ryfeddod botanegol gyda Myrtle a Moss, dau fotanegydd anturus sydd ar drywydd i ddarganfod y planhigion newydd gorau. Ymunwch â nhw ar daith gyffrous a rhyngweithiol, wrth iddynt gynnal arbrofion gwyddonol pwysig iawn.
Mae'r profiad theatr hudolus hwn yn ffordd berffaith o gael hwyl, chwarae gemau, a dod o hyd i’r planhigion newydd prinnaf!
Mae Flossy a Boo yn dychwelyd gyda'u brand hudolus o adrodd straeon, yn llawn llawenydd sy’n addas i bob oedran.
AM DDIM
- 30 Gorff, 11:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Theatrau Sir Gâr
- Categori: Family
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym
- Cwmni: Theatrau Sir Gâr
- Categori: Family
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
