Fleece & Film
Ymunwch â ni am ddangosiad arbennig o Shaun The Sheep The Movie (U) fel rhan o ddathliadau 50 mlwyddiant Amgueddfa Wlân Cymru.
Cyn y ffilm, dewch i gwrdd â’r tîm a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy’n archwilio hanes y diwydiant gwlân yng Nghymru. Bydd cyfle i fod yn greadigol, darganfod gwyddoniaeth gwlân a thrin a thrafod gwrthrychau go iawn o gasgliadau’r amgueddfa.
Yna, ymlaciwch a mwynhewch antur hwyliog i’r teulu cyfan gyda Shaun a’i ffrindiau! Disgwyliwch ddigon o ddireidi, chwerthin a throeon annisgwyl wrth i’r ddiadell fynd i bob math o helynt!
Prynhawn llawn hwyl, darganfod, creadigrwydd a sinema i’r teulu cyfan!
Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Wlân Cymru, ewch i amgueddfa.cymru
Gweithgareddau am ddim o 1pm
Ffilm o 2.30pm
Tocynnau ffilm: £5
- 1 Ebr, 14:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Amgueddfa Wlan Cymru | National Wool Museum
- Categori: Film
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Amgueddfa Wlan Cymru | National Wool Museum
- Categori: Film
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen