Gianni Schicchi
Opera Canolbarth Cymru
Gianni Schicchi Puccini gyda chyngerdd Eidalaidd
Cenir yn Saesneg
Mae Opera Canolbarth Cymru yn cyflwyno noson lawn o opera Eidalaidd, gan agor gyda chomedi un act wych Puccini Gianni Schicchi, un o'r operâu comig Eidalaidd gorau a harddaf.
Mae perthnasau barus Buoso Donati yn galaru ei farwolaeth, ond mewn gwirionedd, mae ganddynt lawer mwy o ddiddordeb yng nghynnwys ei ewyllys. Wrth ddod i wybod nad ydynt wedi etifeddu dim, mae Lauretta, y mae ei dyweddiad â nai Donati, Rinuccio bellach yn y fantol, yn perswadio ei thad, Gianni Schicchi gyfrwys, i'w helpu. Ond mae gan Schicchi ei ateb dyfeisgar ei hun i'r broblem ac wrth i'w gynlluniau gael eu gwireddu aiff popeth i'r gwellt rhwng y perthnasau...
Yn llawn egni, gyda phlot sy'n troi a throelli'n gyflym ac ensemblau penboeth, mae sgôr felodig fawreddog Puccini yn cynnwys un o'i ariâu mwyaf poblogaidd “O mio babbino caro”. Dilynir y perl hwn o ddarn gan wledd yn yr ail hanner o gerddoriaeth Eidalaidd boblogaidd a gyflwynir gan griw o 15 o gantorion ac offerynnwyr OCC.
Gyda dehongliad BSL gan Julie Doyle.
Taith Gyffwrdd 6.30pm
Am ddim ond rhaid cael tocyn, archebwch ymlaen llaw:
Dewch i weld byd y cynhyrchiad gyda TouchTour, Opera Canolbarth Cymru.
Dan arweiniad y Rheolwr Cynhyrchu Bridget Wallbank neu'r Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer, dyma gyfle i'r cynulleidfaoedd fwrw golwg ar bropiau, gwisgoedd ac elfennau cyffyrddol dethol o'n cynhyrchiad cyn y perfformiad.
Beth i'w ddisgwyl:
•
Mynediad i'r Llwyfan- Camwch i'r llwyfan i weld y cynllun, y dodrefn a'r deunyddiau yn uniongyrchol.
•
Propiau a Gwisgoedd- Dewch i fwrw golwg ar eitemau allweddol a theimlo'r gweadau, ffabrigau, a manylion sy'n llywio'r cynhyrchiad.
•
Cipolwg â Disgrifiad Sain—Mae disgrifiadau llafar yn dod â byd gweledol y sioe yn fyw.
Tocynnau £19 | £6 (myfyriwr llawn amser dan 21)
- 11 Tach, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Mid Wales Opera
- Categori: Other Artforms
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: Mid Wales Opera
- Categori: Other Artforms
- Theatr: Ffwrnes Llanelli