Hansel & Gretel

Antur ddawns ddi-ofn! Mae'r stori dylwyth teg glasurol hon yn cael gweddnewidiad dawns.

Mae’r stori dylwyth teg glasurol hon yn cael ei hadrodd mewn dull cyfoes a gwelir ein dau arwr ifanc ar goll mewn dinas fawr, ac yn cael eu llethu gan y golygfeydd, y synau a'r arogleuon.  Gyda'i gilydd mae'n rhaid i'r ddeuawd ddewr drechu'r oedolion i ganfod eu ffordd yn ôl at eu teulu mewn sioe sy'n rhoi'r plant yn gyntaf!

Mae'r coreograffydd a sylfaenydd Uchenna Dance, Vicki Igbokwe (The Head Wrap Diaries, Our Mighty Groove), yn rhoi ei stamp unigryw ar y chwedl adnabyddus hon, gan gyfuno arddull clybiau Efrog Newydd o 'House, Waacking a Vogue' gyda dawns Affricanaidd a dawns gyfoes mewn sioe a fydd yn diddanu'r teulu cyfan.

Byddwch yn barod i fwynhau’r dawnsio wrth i chi gael eich trosglwyddo i fyd sydd ymhell o'r fan hon, ond eto sy'n syndod o debyg.

Dyddiadau Sioe

Info Cyflym

  • Cwmni: Uchenna Dance & Creu Cymru
  • Categori: DANCE
  • Theatr: Miners

Info Cyflym

  • Cwmni: Uchenna Dance & Creu Cymru
  • Categori: DANCE
  • Theatr: Y miners