I’m Muslamic Don’t Panik

Bobak Champion and Friends

Dyma stori ddoniol a theimladwy am daith un dyn i Iran i ddarganfod ei dreftadaeth ddiwylliannol. Mae'n cynnwys cymysgedd cyfareddol o gerddoriaeth fyw, gair llafar, breg-ddawnsio a chomedi.

Ymunwch â Bobak ar ei daith i ddarganfod ei hun wrth iddo gwrdd â chyfres o gymeriadau rhyfedd a rhyfeddol - o fenywod sy'n rhedeg yn herfeiddiol ym marathon cyntaf erioed (ac olaf) Tehran, i ddod ar draws brwydr breg-ddawnsio gudd.

Er bod y cyfryngau'n aml yn portreadu'r Dwyrain Canol fel lle brawychus a pheryglus, mae Bobak yn dangos inni’r positifrwydd, y llawenydd, y gymuned a'r teuluoedd dydyn ni ddim yn eu gweld yn aml. Mae hon yn stori hyfryd a fydd yn gwneud ichi chwerthin yn uchel a theimlo'n llawn gobaith.

Ar ôl y sioe, gallwch gael sgwrs gydag aelodau eraill o'r gynulleidfa a'r artistiaid wrth inni weini te Persiaidd traddodiadol a bisgedi dêts o'r enw Kolompeh. Mae croeso i bawb.

“...so warm hearted that it is impossible not to enjoy.” The Guardian ★★★★

“So full of heart, it’s brimming over” The Scotsman ★★★★

“Immerse yourself in Bobak’s world, it will enliven and educate you.” Fairy Powered Productions ★★★★★

Mae Bobak Champion and Friends yn cyflwyno mewn cydweithrediad â Creu Cymru a'r Rural Touring Dance Initiative.

Oed 12+

Tocynnau | £8.50 & o dan 25 £5.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Creu Cymru
  • Categori: Dance
  • Theatr: Glowyr

Info Cyflym

  • Cwmni: Creu Cymru
  • Categori: Dance
  • Theatr: Glowyr