Jive Talkin' | Lyric

Jive Talkin' - Y Sioe Deyrnged wreiddiol a gorau i'r Bee Gees

Yn enwog fel y sioe deyrnged wreiddiol a gorau i'r Bee Gees, a'r unig sioe deyrnged sydd wedi perfformio gyda'r Bee Gees gwreiddiol! Ym 1997 perfformiodd Gary a Darren o Jive Talkin yn fyw ar Heart FM gyda'r Bee Gees eu hunain, a chael canmoliaeth fawr gan Maurice a Barry Gibb.

Yn union fel y grŵp gwreiddiol, mae Jive Talkin' yn grŵp teuluol go iawn. Mae'r brodyr Gary a Darren Simmons yn ymgymryd â rolau Barry a Maurice Gibb, tra bod mab Darren sef Jack, yn cyfleu sain ag ysbryd Robin Gibb yn berffaith.

Mae Jive Talkin' yn fwy na dim ond sioe deyrnged. Yn llawn chwerthin, cyfeillgarwch, ac eiliadau bythgofiadwy, mae sioe Jive Talkin' yn gadael cynulleidfaoedd yn gwenu, canu a dawnsio ymhell ar ôl yr encore olaf.

Mae'r band saith darn anhygoel hwn yn cynnwys band byw llawn - gan gynnwys adran linynnol - gan sicrhau bod pob nodyn yn cael ei berfformio gywir gydag angerdd.

“The soundalike quality is quite sensational.” – The Stage
“Amazing similarity to the real Bee Gees.” – Wakefield Express
“Absolutely brilliant.” – Maurice Gibb
“WOW!” – Barry Gibb

Dewch i glywed y clasuron i gyd - Tragedy, Night Fever, Massachusetts, Stayin' Alive, Jive Talkin' a llawer mwy - mewn dathliad dwy awr ysblennydd o gerddoriaeth sy'n perthyn i bob oes a harmoni lleisiol arbennig.

Bydd hon yn noson i'w chofio!

Tocynnau: £28.50

Info Cyflym

  • Cwmni: UK Theatre Shows
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: UK Theatre Shows
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen