Johnny Cash Roadshow | The Hits and Highwaymen Tour

Yr enwog alltud. Y sioe na allwch ei cholli.


Byddwch yn barod am noson wefreiddiol fydd yn siŵr o godi'r to - mae Johnny Cash Roadshow yn ôl mewn sioe sy'n fwy, yn well ac yn fywiocach nag erioed.

Y canwr llwyddiannus Clive John sy'n arwain y cynhyrchiad hwn a chaiff ei gydnabod yn eang am ei berfformiadau anhygoel fel Johnny Cash. Mae ei lais, ei bresenoldeb, a'i ddilysrwydd amrwd yn dynwared Cash i'r dim. Pob nodyn. Pob stori. Pob symudiad eiconig. Mae'n bwerus, yn wefreiddiol ac yn hollol fythgofiadwy.

Wrth ei ochr, mae'r syfrdanol 'June Carter' sy'n dod â swyn di-stop i'r cynhyrchiad, gan oleuo'r llwyfan gyda deuawdau gwefreiddiol fel Jackson, Time's A Wastin' a 'Help Me Make It Through the Night'.Gyda'i gilydd, maent yn cael eu cefnogi gan criw o gerddorion pwerus o'r radd flaenaf sy'n cyflwyno'r caneuon mwyaf poblogaidd mewn ffordd wych.

Nid teyrnged yn unig yw hon - mae'n ddathliad llawn egni o Cash, gan gyfleu ei ysbryd annibynnol, gyda'i holl ganeuon poblogaidd gan gynnwys Folsom Prison a Cocaine Blues ac eleni caneuon yr Arch-grŵp Americanaidd The Highwaymen fel Highwayman, Silver Stallion a Mamas Don't Let Your Babies. Gallwch ddisgwyl dehongliad syfrdanol o Hurt, caneuon hiraethus myfyriol fel Walk the Line a Daddy Sang Bass, gan ymgorffori'r holl ganeuon poblogaidd a gorffen gyda'r clasur bythgofiadwy Ring of Fire.

Mae pob perfformiad yn cael cymeradwyaeth arbennig - bob nos, ym mhob lleoliad, caiff pob torf ei hysgubo ar ei thraed gan bŵer, angerdd ac egni di-stop y sioe anhygoel hon. Dyma'r Dyn mewn Du fel nad ydych erioed wedi ei brofi o'r blaen. Dyma adfywiad y ddegawd. Dyma Johnny Cash Roadshow - yn cadw'r chwedl yn fyw, yn uwch ac yn gryfach nag erioed.


“I had the pleasure to see the ‘Johnny Cash Roadshow / Spirit Band’ just this past weekend in Manchester. As a member of this family, the Cash Family, I was in awe of how incredible the performances were. Clive and his June capture my grandfather and Grandmother JUST as they were in this world, they put a mark in. And not just the focus of the show, being those two talents, but the rest of the crew, absolutely brilliant. I have never seen a stand-up bass spun around that fast, just to predict the perfect punctuation for landing! And don’t get me started on the electric and the drums! AMAZING!"

 - Caitlin Crowell Granddaughter of Mr. Johnny Cash and Mrs. June Carter Cash

Tickets £31

Info Cyflym

  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen