Kerry Ellis - Rock Anthems

Roedd Syr Brian May wedi disgrifio Kerry Ellis fel "y llais harddaf ym Mhrydain.” Felly, gofynnodd iddi ganu caneuon mwyaf poblogaidd Queen yn y sioe gerdd boblogaidd, We Will Rock You. Cyfarfu'r ddeuawd yn 2002 a rhyddhau tri albwm gyda'i gilydd, yn ogystal â theithio'r byd. Anthemau roc oedd yr ysbrydoliaeth i'r gantores arobryn Kerry Ellis, sy'n un o sêr mwyaf y theatr gerddorol.

Yn y sioe newydd hon, bydd hi'n mynd ar drywydd ei chariad at anthemau roc wrth iddi dalu teyrnged i Queen, Meatloaf, Bonnie Tyler a'r eiconau roc eraill a fu'n ysbrydoliaeth iddi. Bydd Ellis yn canu dewis amrywiol o anthemau roc clasurol. 

Byddwch yn barod i rocio!

Tocynnau | £30.50 | VIP Cwrdd a Chyfarch £75.50 | VIP Goody Bag £45.50

Galw ar Berfformwyr Ifanc!

Ydych chi erioed wedi breuddwydio am berfformio ar y llwyfan gyda seren o'r West End? Dyma eich cyfle chi!

Rydyn ni'n chwilio am unawdwyr talentog rhwng 11 ac 19 oed i berfformio ochr yn ochr â Kerry Ellis yn ei sioe Rock Anthems yn y Ffwrnes, Llanelli, ar 18 Medi.

Os ydych chi'n adnabod canwr ifanc o safon, dyma gyfle anhygoel i ddisgleirio ar lwyfan proffesiynol a pherfformio cân gydag un o enwau mawr y theatr gerddorol.

Gwnewch gais yma: https://performnow.co.uk/search-for-a-star

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cais: 15 Awst 2026

Info Cyflym

  • Cwmni: A Way with Media
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: A Way with Media
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli