Legally Blonde: The Musical

Cwmni Theatr Glo Coleg Sir Gâr yn perfformio Legally Blonde 

Yn enw cariad, mae Elle Woods yn dilyn ei chyn-gariad i Ysgol y Gyfraith, Harvard. Mae'n benderfynol o brofi ei bod hi'n fwy na stereoteip, ac ar ei thaith mae'n darganfod cyfeillgarwch, gwytnwch a'i hunan-werth ei hun. 

Daw brwdfrydedd Legally Blonde i'r llwyfan drwy ganeuon mawr eu hegni, coreograffi deinamig a llawer o binc! Yn llawn eiliadau doniol a syrpreisis twymgalon, mae'n ddathliad o uchelgais, hunan-gred, ac aros yn driw i chi'ch hun. 

Yn berffaith ar gyfer noson allan gyda ffrindiau neu'r teulu, mae'n sioe bwerus a llawen, a bydd Elle yn eich calon wrth hymian yr alawon yr holl ffordd adref.

Cynhyrchiad ieuenctid

Canllaw oedran: Argymhellir ar gyfer 10+ oherwydd iaith a themâu oedolion.

Tocynnau £10 


Info Cyflym

  • Cwmni: Coleg Sir Gar’s Cwmi Theatre Glo
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Coleg Sir Gar’s Cwmi Theatre Glo
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli