Llanast!

Llanast! Cyfieithiad Gareth Miles o ‘Le Dieu du Carnage’ gan Yasmina Reza 

2 fam, 2 dad, 2 fab × wisgi, tiwlips a ffôn = llanast! 

Mae dau bâr o rieni yn cwrdd i drafod ymddygiad eu plant anystywallt - mae plentyn un ohonynt wedi brifo plentyn y llall mewn parc. 

Mae’r cyfarfod yn cychwyn yn o gall, a’r pedwar yn ddigon bonheddig, ond wrth i amser fynd yn ei flaen mae ymddygiad y pedwar yn mynd yn fwyfwy plentynnaidd, a diolch i botel o Benderyn, daw’r cyfarfyddiad i ben mewn anhrefn llwyr! 
 
Mae chwarae’n troi’n chwerw go iawn yn y ddrama ddoniol, ddeifiol hon. 

Canllaw oed 14+ Sioe Gymraeg. Bydd crynodeb Saesneg ar gael. 

Cast: 
Siôn Emyr
Gwenllian Higginson 
Carwyn Jones 
Manon Wilkinson 

Cyfarwyddo:
Betsan Llwyd

Tocynnau | £15.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatr Bara Caws
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni

Info Cyflym

  • Cwmni: Theatr Bara Caws
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni