Mettle

Wedi'i ysgrifennu a'i berfformio gan Nicholas Collett a'i gyfarwyddo gan Gavin Robertson.

Mae'r perfformiwr unigol arobryn, Nicholas Collett (Actor Gorau British Arrows, Gwobr Perfformiad Arbennig yn y World Duo Festival, Seoul De Korea, y Wobr Theatr Orau yn yr Adelaide Fringe 2023) yn adrodd hanes gwasanaeth ei dad yn ystod taith y llongau gwarchod ar draws yr Iwerydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Taith go iawn sy'n mynd â ni o Sheffield i Lerpwl i Nova Scotia, Boston i Orllewin Affrica ac adref eto, yng nghanol bygythiad cyson ymosodiadau'r llongau tanfor Almaenig a thywydd ofnadwy. Gan gyfuno theatr gorfforol ac adrodd straeon gyda chefndir sain dramatig a cherddoriaeth o'r 1940au, mae hon yn deyrnged i'r rhai roddodd eu gwasanaeth, y rhai a gollwyd, a'r rhai sydd wedi byw i adrodd eu stori.

Mewn cydweithrediad â Sefydliad Daparian - yn ymrwymedig i'r rhai sydd ar daith trawma, yn cefnogi cyn-filwyr a gweithwyr y gwasanaethau golau glas.

12+

£15.50 | £14.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Nicholas Collett and Gavin Robertson
  • Categori: Other Artforms
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni

Info Cyflym

  • Cwmni: Nicholas Collett and Gavin Robertson
  • Categori: Other Artforms
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni