Oh What A Night!
Mae OH WHAT A NIGHT! yn mynd â chi ar daith gerddorol trwy yrfa anhygoel Frankie Valli & The Four Seasons, sydd bellach wedi’u hanfarwoli yn y sioe Jersey Boys, sydd wedi ennill sawl gwobr ac wedi bod yn llenwi theatrau ledled y byd ers y perfformiad cyntaf yn 2005.
Bu llais anhygoel Valli yn diddanu cynulleidfaoedd am fwy na dau ddegawd gyda chlasuron fel Sherry, Let’s Hang On, Big Girls Don’t Cry, Can’t Take My Eyes Off You, My Eyes Adored You, December 63 (Oh What A Night), Bye Bye Baby, Who Loves You a llawer, llawer mwy.
Gyda repertoire nad oes angen ei gyflwyno, mae OH WHAT A NIGHT! yn cyfuno personoliaethau arbennig, lleisiau anhygoel, harmonïau slic a symudiadau dawns hyd yn oed yn fwy slic er mwyn cyflwyno sioe llawn egni a fydd yn sicr o'ch plesio!
Peidiwch â cholli'r dathliad anhygoel hwn o un o fandiau roc a rôl gorau'r byd!
Tocynnau | £26.50
- 14 Tach, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Handshake Ltd
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym
- Cwmni: Handshake Ltd
- Categori: Music
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
