One Night In Dublin
MAE'R SIOE GERDDOROL WYDDELIG HYNOD BOBLOGAIDD YN ÔL!
Byddwch yn barod am noson o chwerthin, cariad, cerddoriaeth a drygioni wrth i One Night In Dublin ddychwelyd i Theatr y Lyric gyda sioe newydd sbon sy'n llawn swyn Gwyddelig.
Dewch i gwrdd â Danny, pysgotwr sy'n dwlu ar wisgi ac sydd â llais arbennig, a Rosie, ei wraig ddiflewyn-ar-dafod. O strydoedd Dulyn i gorneli clyd Murphy's Tavern, dilynwch Danny wrth iddo osgoi rhwystrau (gan gynnwys Rosie!) wrth ddychwelyd adref o'r môr i chwilio am beint a noson fawr o hwyl gyda'i ffrindiau.
Mae band o gerddorion arobryn, gan gynnwys rhai sy'n chwarae ffidl ac acordion yn fyw, yn perfformio eich hoff glasuron Gwyddelig gan gynnwys Galway Girl, Tell Me Ma, The Irish Rover, Dirty Old Town, Whiskey In The Jar, The Wild Rover, Galway Shawl a mwy.
Gyda chaneuon gan The Pogues, The Saw Doctors, The Dubliners, The Fureys, Flogging Molly, Nathan Carter a The Dropkick Murphys i enwi ond ychydig, mae One Night in Dublin yn siŵr o blesio unrhyw un sy'n joio cerddoriaeth Wyddelig.
Ymunwch â ni am ddwy awr o gerddoriaeth Wyddelig egnïol a hwyliog. Wedi'r cyfan, mae'n debyg i noson Sant Padrig yn Murphy's Tavern bob nos – gyda mwy o enaid, hiwmor, a llawer o ddathlu!
Gall y cast newid
Tocynnau: £27
- 28 Ion, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Dublin Show Productions Ltd
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Dublin Show Productions Ltd
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen