Operation MI6
Camwch i fyd MI6 am y tro cyntaf erioed.
Beth sy'n digwydd y tu ôl i'r penawdau mewn gwirionedd? Sut mae ymgyrchoedd cudd-wybodaeth yn cael eu cynllunio? Sut mae asiantau'n cael eu recriwtio? Sut mae bygythiadau’n cael eu nodi, eu monitro a'u dirymu?
Dan arweiniad cyn-swyddog cudd-wybodaeth MI6, Matthew Dunn, mae Operation MI6 yn arwain cynulleidfaoedd i fyd cyfrinachol gwasanaeth cudd-wybodaeth tramor Prydain mewn profiad theatr byw gafaelgar sy'n wahanol i unrhyw brofiad arall.
Trwy ymgyrch fyw sy'n datblygu, ail-greu sefyllfaoedd dramatig a chael cipolwg ar y byd go iawn, byddwch yn darganfod sut mae swyddogion cudd-wybodaeth yn meddwl, yn gweithredu ac yn gwneud penderfyniadau pan fo’r cyfan yn y fantol.
Gan gyfuno theatr, gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng byw, ffilmiau drôn o'r awyr a sylwebaeth arbenigol gan rywun sydd wedi byw’r profiad, mae Operation MI6 yn cynnig cipolwg prin ar fyd y mae ychydig iawn o bobl yn ei weld.
Mae’r ymgyrch yn fyw.
Mae'r penderfyniadau'n real.
Y cwestiwn yw: beth fyddech chi'n ei wneud?
Canllaw oed: 14+
Tocynnau £34.50 | £31 | £28
- 23 Ebr, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Entertainers Theatrical Ltd
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: Entertainers Theatrical Ltd
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Ffwrnes Llanelli