RENT The Musical

Wedi'i gosod yn strydoedd bywiog ond caled East Village Efrog Newydd, mae RENT yn sioe gerdd roc bwerus, arobryn am gariad, cyfeillgarwch, creadigrwydd a'r dewrder i fyw bywyd ar eich telerau eich hun. Wrth i grŵp o artistiaid ifanc llawn breuddwydion ymdrechu i gael dau ben llinyn ynghyd ynghanol perthnasoedd, dibyniaeth, hunaniaeth, colled a realiti byw gyda HIV/AIDS. Trwy flwyddyn o chwerthin, torcalon, gwrthryfel a cherddoriaeth fythgofiadwy, maen nhw'n darganfod bod bywyd yn werth ymladd drosto, hyd yn oed wrth wynebu ansicrwydd.

Yn cynnwys sgôr eiconig Jonathan Larson, gan gynnwys Seasons of Love, La Vie Bohème a Take Me or Leave Me, mae RENT yn ddathliad pwerus a theimladwy o unigolrwydd, teulu dewisol a phŵer cymuned.

Beiddgar, cignoeth a’r un mor berthnasol heddiw ag erioed, mae hon yn stori sy'n ein hatgoffa i werthfawrogi'r bobl rydyn ni'n eu caru, herio'r byd o'n cwmpas a gwneud i bob eiliad gyfrif.

Dim difaru. Byw ar gyfer heddiw. Heddiw amdani.

Mae South Wales Amateur Musical Productions (SWAMP) yn falch o ddod â'r sioe gerdd drydanol hon i'r llwyfan.

Cynhyrchiad amatur

Tocynnau £16

14+  Content warnings for suicide, sex work, HIV/AIDS, bereavement and drug use. 

Info Cyflym

  • Cwmni: South Wales Amateur Musical Productions
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Ffwrnes, Stiwdio Stepni

Info Cyflym

  • Cwmni: South Wales Amateur Musical Productions
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Ffwrnes, Stiwdio Stepni