Romeo a Juliet
Cynhyrchiad Theatr Cymru mewn cydweithrediad â Shakespeare’s Globe
Romeo a Juliet
Gan William Shakespeare
Yn seiliedig ar gyfieithiad J. T. Jones
“Ai dyna iaith dy galon?”
Dau deulu, dwy iaith a phâr o gariadon ifanc sy’n barod i fentro popeth.
Dyma olwg newydd ar y stori garu trasig enwog, sy’n gosod ffrae ffyrnig y teuluoedd Montagiw a Capiwlet yng nghymdeithas dwyieithog Cymru – lle mae Cymraeg y Montagiws a Saesneg y Capiwlets yn gwrthdaro.
Wrth i ieithoedd wahaniaethu ac uno, mae hen gweryl gwaedlyd yn ail-danio, y cosmos yn troi, a mae dau gariad anffodus yn gwynebu eu tynged.
Dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly, bydd y cynhyrchiad arloesol hwn yn plethu’r Gymraeg a’r Saesneg, gan archwilio’r hunaniaeth Gymreig a chynnig safbwynt newydd ar ddrama anfarwol Shakespeare.
Canllaw Oed: 12+
Mae Romeo a Juliet yn cynnwys golygfeydd rhywiol, trais corfforol, arfau, llofruddiaeth a hunanladdiad.
Hyd: 90 - 110 munud heb egwyl (union hyd i'w gadarnhau)
Sioe Dwyieithog
Bydd capsiynau dwyieithog agored.
Tocynnau: £18 | £20
Perfformiad ysgol: £12.50 y disgybl. 1 tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl sy'n mynychu - dim ond ar gael i'w archebu trwy'r swyddfa docynnau.
Ffilmio
Bydd y perfformiadau ar 22 Hydref yn cael ei ffilmio. Mae rhai seddi wedi'u blocio at ddibenion ffilmio.
- 22 Hyd, 13:30 ARCHEBWCH NAWR (Ysgolion | Schools)
- 22 Hyd, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
- 23 Hyd, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Theatr Cymru
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym
- Cwmni: Theatr Cymru
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
