Rookery Nook by Ben Travers

Mae Grŵp Theatr Phoenix yn cyflwyno ffars glasurol Ben Travers.

Mae Gerald Popkiss, sydd newydd briodi, ar ei ffordd i Rookery Nook gyda'i wraig newydd, Clara a'i fam-yng-nghyfraith. Ar ôl cael ei orfodi i deithio yn ei flaen ar ei ben ei hun, mae ei fam-yng-nghyfraith yn teimlo'n sâl yn sydyn, ac mae Gerald yn dod ar draws tipyn o gynnwrf ar ôl cyrraedd. Mae merch ifanc hardd – sy'n gwisgo dim ond ei phyjamas – wedi cael ei thaflu allan o'r tŷ drws nesaf gan ei llystad cynddeiriog, ac mae hi'n erfyn arno i adael iddi aros. Mae'n rhaid i Gerald gadw'r ferch dan gudd hyd nes y gall ddod o hyd i ddillad iddi. Ychwanegwch ei chwaer-yng-nghyfraith awdurdodol sy'n byw gerllaw, ei gŵr sydd o dan ei bawd, morwyn sy'n busnesa, a chymdogion ecsentrig amrywiol, ac mae'r cyfan oll yn creu dryswch, panig, ffwdan a dicter! 

Ymunwch â Grŵp Theatr Phoenix Llanelli am noson ddifyr sy'n llawn chwerthin a hwyl hen ffasiwn sy'n cynnig dihangfa. 

Mae'r cynhyrchiad amatur hwn o Rookery Nook yn cael ei gyflwyno trwy drefniant gyda Concord Theatricals Ltd ar ran Samuel French Ltd.

Tocynnau | £14

Info Cyflym

  • Cwmni: PHOENIX THEATRE GROUP
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: PHOENIX THEATRE GROUP
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli