Santa's New Sleigh | Ysgolion - Schools

Mae gan Sprocket a Dibs broblem! 

Mae'r Nadolig yn prysur agosáu, ac nid yw Sled Siôn Corn i'w gweld yn unman. A fydd Sprocket a Dibs yn gallu creu sled newydd mewn pryd neu a fydd y Nadolig yn cael ei ganslo? Allwch chi eu helpu i achub y dydd? Dim ond amser fydd yn dweud ond gyda help y gynulleidfa, caneuon y gallwch gyd-ganu iddyn nhw ac anrheg am ddim gan Siôn Corn i bob plentyn mae'n argoeli i fod yn drît Nadoligaidd perffaith. 

Mae'r sioe hon yn ddelfrydol ar gyfer plant oed cyn-ysgol a phlant hyd at 8 oed. 

Hyd: 50 munud. 

Hefyd, gallwch gwrdd â Siôn Corn ar ôl y sioe! 
Mae tocyn yn cynnwys anrheg am ddim i bob plentyn. 

Drama Nadoligaidd gan Brad Fitt Cerddoriaeth a chaneuon gwreiddiol gan Richard Lamming 

"A charming performance. Santa’s New Sleigh is a real treat." - J&PR.com 

Tocynnau: £7.50 - Un tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl sy'n mynychu. 
I archebu tocynnau i ysgolion, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 0345 2263510 neu theatrau@sirgar.gov.uk

Info Cyflym

  • Cwmni: Sam Bradshaw Productions Ltd
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Glowyr

Info Cyflym

  • Cwmni: Sam Bradshaw Productions Ltd
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Glowyr