Shrek JR
Fel y dywed yr hen ddihareb, gwyn y gwêl y dywysoges ei bwystfil ac mae hyn yn wir am y cawr hoffus yn Shrek The Musical JR. sy'n seiliedig ar y ffilm gan DreamWorks a enillodd Oscar a'r sioe gerdd Broadway wych.
Mae'n "fyd mawr disglair a hardd" wrth i Shrek, hoff gawr pawb, arwain criw o gymeriadau unigryw ar antur i achub tywysoges a cheisio cael eu derbyn mewn bywyd.
Mae Shrek JR., sy'n stori ramant a stori dylwyth teg ychydig yn wahanol, yn sioe hwyliog sy'n cyflwyno neges bwerus i'r teulu cyfan.
Un tro, mewn cors bellennig, roedd cawr o'r enw Shrek. Un diwrnod, mae Shrek yn dod o hyd i'w gors wedi'i goresgyn gan gymeriadau unigryw sydd wedi cael eu hanfon i ffwrdd gan yr Arglwydd Farquaad, brenin bach dychrynllyd ag uchelgeisiau mawr.
Pan fo Shrek yn cychwyn ar daith yng nghwmni asyn doeth i wynebu Farquaad, mae'n cael tasg i'w chwblhau – os yw'n achub Fiona, y dywysoges â chymeriad cadarn, bydd e'n cael ei gors yn ôl. Mae Shrek yn ceisio ennill cariad Fiona a gorchfygu'r Arglwydd Farquaad, ond ni fyddai'n stori dylwyth teg heb ychydig o droeon trwstan ar hyd y ffordd.
Cynhyrchiad ieuenctid
Tocynnau: Oedolion £15 | Plant £10
- 20 Maw, 14:00 ARCHEBWCH NAWR
- 20 Maw, 18:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Stagecoach Performing Arts Carmarthen
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Stagecoach Performing Arts Carmarthen
- Categori: General Entertainment
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen