Snow White
Dim ond ffŵl sydd yn methu panto 'Snow White'!
Y Nadolig hwn mae Theatr y Lyric, Caerfyrddin, yn eich gwahodd i ymuno â ni am antur hudolus heb ei debyg — Snow White, ein pantomeim gwych ar gyfer Nadolig 2025!
Dyma i chi banto'n llawn gwisgoedd disglair, caneuon hwyliog, chwerthin iach, a digon o ddrygioni - perffaith i'r teulu cyfan.
Mae Snow White, tywysoges garedig a hardd, yn cael ei gorfodi i ffoi wrth i'w llysfam genfigennus, y Frenhines Ddrwg, gynllwynio yn ei herbyn. Yn ddwfn yn y goedwig daw o hyd i gyfeillgarwch saith corrach annwyl. Dan chwerthin, hud a lledrith, a chusan gwir gariad, mae da yn trechu'r drwg yn y panto hwn, sy'n glasur.
Gallwch ddisgwyl hwyl tylwyth teg, setiau hudolus, a chast trawiadol, a byddwch chi'n cymeradwyo, yn bwio, ac yn canu o'r dechrau i'r diwedd.
Archebwch eich tocynnau nawr ar gyfer Snow White yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin — traddodiad Nadoligaidd nad oes neb am ei golli!
Yn dilyn llwyddiant Beauty and the Beast, mae Theatrau Sir Gâr yn falch iawn o gael cefnogaeth Imagine Theatre unwaith eto eleni.
Rhybudd
Sylwch y bydd goleuadau strôb, pyrotechneg a mwg theatrig yn cael eu defnyddio yn ystod y perfformiad hwn.
Tocynnau Cynnar
Archebwch erbyn Hydref 1 i arbed £2 oddi ar bob tocyn! Dim angen côd, mae'r disgownt yn digwydd yn awtomatig.
Prisiau Tocynnau Cynnar
Gostyngol: £14.50, £12.50 a £50
Safonol: £18, £16 & £64
Premiwm: £21, £18 a £72
Prisiau Tocynnau ar ôl 1 Hydref 2025
Gostyngol: £16.50, £14.50 a £58
Safonol: £20, £18 a £72
Premiwm: £23, £20 a £80
Archebion Grŵp
Archebwch 10 tocyn neu fwy a bydd yr holl docynnau am bris gostyngol. Rhaid archebu drwy'r swyddfa docynnau.
Ysgolion
Ar gyfer archebion ysgolion, gweler y dudalen hon.
Perfformiad BSL
Dydd Sul 14eg o Ragfyr 3pm - Anthony Evans
Beth yw perfformiad wedi'i gyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain (BSL)?
Ym mherfformiadau Iaith Arwyddion Prydain, mae arwyddwyr hyfforddedig yn cyfieithu'r sgript a'r iaith a ddefnyddir gan y perfformwyr wrth i hynny ddigwydd. Bydd y cyfieithydd yn ar y dde ochr y llwyfan (wrth edrych o'r gynulleidfa).
Perfformiad Ymlaciedig
Nos Sul 17eg Rhagfyr 6pm
Bore Gwener 19eg Rhagfyr 10am
Beth yw perfformiad ymlaciedig?
Mae perfformiadau ymlaciedig yn agored i bawb, ac wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant, pobl ifanc neu oedolion a allai fod ag anableddau, anghenion cymorth ychwanegol a'r rheiny sydd ar y sbectrwm awtistig.
- Dim pyrotechneg na goleuadau strôb
- Bydd y sain hefyd ar lefel is
- Bydd y goleuadau tŷ yn aros ymlaen ond yn pylu
- Bydd y gynulleidfa’n gallu mynd a dod o’r awditoriwm os dymunant
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a'n tim Swyddfa Docynnau ar theatrau@sirgar.gov.uk neu 0345 2263510
Gweler y stori weledol ar gyfer Y Lyric yma.
- 11 Rhag, 19:00 ARCHEBWCH NAWR (Saver)
- 12 Rhag, 19:00 ARCHEBWCH NAWR (Saver)
- 13 Rhag, 13:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 13 Rhag, 18:00 ARCHEBWCH NAWR (Standard)
- 14 Rhag, 11:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 14 Rhag, 15:00 ARCHEBWCH NAWR (BSL. Standard)
- 17 Rhag, 18:00 ARCHEBWCH NAWR (Relaxed. Standard)
- 18 Rhag, 14:00 ARCHEBWCH NAWR (Saver)
- 19 Rhag, 10:00 ARCHEBWCH NAWR (Relaxed. Saver)
- 19 Rhag, 19:00 ARCHEBWCH NAWR (Saver)
- 20 Rhag, 13:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 20 Rhag, 18:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 21 Rhag, 13:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 21 Rhag, 18:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 23 Rhag, 14:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 23 Rhag, 19:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 24 Rhag, 11:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 24 Rhag, 15:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 27 Rhag, 13:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 27 Rhag, 18:00 ARCHEBWCH NAWR (Standard)
- 28 Rhag, 12:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 28 Rhag, 17:00 ARCHEBWCH NAWR (Standard)
- 29 Rhag, 13:00 ARCHEBWCH NAWR (Premium)
- 29 Rhag, 18:00 ARCHEBWCH NAWR (Standard)
Info Cyflym
- Cwmni: Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr Production
- Categori: Christmas Show
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym
- Cwmni: Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr Production
- Categori: Christmas Show
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
