Snow White | Ysgolion - Schools
Dim ond ffŵl sydd yn methu panto 'Snow White'!
Y Nadolig hwn mae Theatr y Lyric, Caerfyrddin, yn eich gwahodd i ymuno â ni am antur hudolus heb ei debyg — Snow White, ein pantomeim gwych ar gyfer Nadolig 2025!
Dyma i chi banto'n llawn gwisgoedd disglair, caneuon hwyliog, chwerthin iach, a digon o ddrygioni - perffaith i'r teulu cyfan.
Mae Snow White, tywysoges garedig a hardd, yn cael ei gorfodi i ffoi wrth i'w llysfam genfigennus, y Frenhines Ddrwg, gynllwynio yn ei herbyn. Yn ddwfn yn y goedwig daw o hyd i gyfeillgarwch saith corrach annwyl. Dan chwerthin, hud a lledrith, a chusan gwir gariad, mae da yn trechu'r drwg yn y panto hwn, sy'n glasur.
Gallwch ddisgwyl hwyl tylwyth teg, setiau hudolus, a chast trawiadol, a byddwch chi'n cymeradwyo, yn bwio, ac yn canu o'r dechrau i'r diwedd.
Archebwch eich tocynnau nawr ar gyfer Snow White yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin — traddodiad Nadoligaidd nad oes neb am ei golli!
Yn dilyn llwyddiant Beauty and the Beast, mae Theatrau Sir Gâr yn falch iawn o gael cefnogaeth Imagine Theatre unwaith eto eleni.
Rhybudd
Sylwch y bydd goleuadau strôb, pyrotechneg a mwg theatrig yn cael eu defnyddio yn ystod y perfformiad hwn.
Tocynnau: Disgyblion £12.50. Un tocyn Athro am ddim gyda phob 10 disgybl sy'n mynychu (athrawon ychwanegol £12.50)
Sut i archebu
Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau i archebu eich tocynnau, e-bostiwch: theatrau@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 0345 2263510.
- 16 Rhag, 10:00 CYSYLLTWCH â'R SWYDDFA DOCYNNAU I ARCHEBU TOCYNNAU
- 17 Rhag, 10:00 CYSYLLTWCH â'R SWYDDFA DOCYNNAU I ARCHEBU TOCYNNAU
- 18 Rhag, 10:00 CYSYLLTWCH â'R SWYDDFA DOCYNNAU I ARCHEBU TOCYNNAU
Info Cyflym
- Cwmni: Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr Production
- Categori: Christmas Show
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym
- Cwmni: Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr Production
- Categori: Christmas Show
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
