Straeon Rhyfeddol O Gymru / Amazing Stories From Wales

Hummadruz a Theatr Uwchfioled Cymru yn cyflwyno: 

Straeon Rhyfeddol o Gymru

Mae Straeon Rhyfeddol yn sioe unigryw a thrawiadol i bobl o bob oedran, iaith a gallu.

Dewch i brofi dwy stori ryfeddol. Mae UFO yn adrodd stori am UFOs yn ymweld â Chymru am filiynau o flynyddoedd. Beth maen nhw ei eisiau gyda deinosoriaid, Pentre Ifan ac Ynys Enlli?

Mae'r ail stori, When the Dragons Came Back to Wales yn adrodd hanes plentyn 12 oed sy'n gwneud draig garnifal ar gyfer gŵyl yn y cymoedd. Yna daw storm ffyrnig, ac mae'r canlyniadau'n newid y byd…

Wedi'i pherfformio'n gyfan gwbl i gyfeiliant cerddoriaeth glasurol newydd o Gymru, a chan ddefnyddio'r cerddorion gorau yng Nghymru, mae'r sioe ddi-eiriau hon yn defnyddio syrcas, dawns, pypedwaith, rhithiau a Makaton i adrodd straeon hardd, llawn gobaith a llawen. Mae thereminau a cherddoriaeth electronig yn helpu i wneud y sioe hon yn brofiad sonig a gweledol seicedelig.

Caiff y sioe ei pherfformio'n gyfan gwbl o dan olau uwchfioled/du ac mae'n addas ar gyfer 4 oed ac yn hŷn a siaradwyr pob iaith.

Eistedd ar Liniau
Os ydych chi'n dod â phlentyn 18 mis oed neu iau, gall fynd gyda chi am ddim os ydych chi'n dewis y tocyn eistedd ar liniau. Sylwer, dim ond ar y llawr gwaelod y gall plant eistedd ar liniau oedolion.

Tocynnau: £14.50 | £12.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Hummadruz
  • Categori: Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Hummadruz
  • Categori: Family
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli