The Bohemians - Lyric

Ymunwch â ni am noson yng nghwmni’r band The Bohemians - sy'n cael ei ddisgrifio fel ‘Y band teyrnged i Queen mwyaf cyffrous yn y byd’.

Paratowch i gael eich hudo o'r cychwyn cyntaf gyda pherfformiad clyweledol dilys ac eiconig o Queen yn Wembley yn '86 wrth i The Bohemians gyrraedd y llwyfan i’r caneuon One Vision a A Kind of Magic. Mae cymaint o ganeuon gwych i'w clywed ac maen nhw gyd yma, o'r piano a’r harmonïau cynnar Killer Queen a Don't Stop Me Now, i anthemau pop diweddarach yr wythdegau.

Mae'r ail awr yn canolbwyntio ar y caneuon diweddarach ac unwaith eto mae cynifer i ddewis ohonynt. Mae'r gân boblogaidd, Breakthru yn gosod y llwyfan ar gyfer y cyflwyniad i’r gwisgoedd ar gyfer y rhan hon o'r set sy'n cynnwys nodwedd newydd o sioe lwyfan The Bohemians, sef cyfuniad slic o glasuron o ddiwedd yr wythdegau a dechrau'r nawdegau.

I Want it all, The Show Must Go On a, Days of our Lives yw rhai o’r caneuon fydd yn cael eu cynnwys. Nesaf, daw golygfeydd a sain y perfformiad a welwyd ar lwyfan Live Aid ac wrth gwrs, y clasur Bohemian Rhapsody. Yna yn ôl i Wembley yn '86 pan fydd The Bohemians yn gwneud i chi godi ar eich traed a chanu, dawnsio a chlapio i We Will Rock You a We Are the Champions. Yr uchafbwynt priodol wrth i chi ail-fyw perfformiad byw gwych a chofiadwy gan fand roc mwyaf y byd.

Pàs Covid

Bydd rhaid i bawb 18 oed a hŷn sy'n mynychu'r perfformiad hwn gyflwyno Pàs Covid y GIG.

Gallwch wneud cais am eich Pàs Covid yma llyw.cymru

Gweler ein tudalen ddiogelwch Covid yma.

Info Cyflym

  • Cwmni: Events for Wales
  • Categori: Music
  • Theatr: The Lyric Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Events for Wales
  • Categori: Music
  • Theatr: The Lyric Carmarthen