The Elves and the Shoemaker

Mae Exeter Northcott Theatre a Chwmni Theatr Paddleboat yn falch o gyflwyno fersiwn newydd sbon o'r stori annwyl, The Elves and the Shoemaker.

Mae'r corachod yn byw yng nghilfachau a chorneli hen siop y crydd. Mae'r cymeriadau haerllug hyn yn byw ar y darnau mân sy'n cael eu gadael ar ôl ar ddiwedd y dydd; lasys esgidiau, darnau o ledr a briwsion brechdanau. Maen nhw'n cuddio rhag y byd mawr – dyna sydd orau ganddyn nhw. Ond dydy popeth ddim yn mynd yn hwylus yn y Siop Esgidiau. Mae gwerthiant yn gostwng ac mae cwsmeriaid yn chwilio am esgidiau mewn mannau eraill. Mae'n ymddangos fel y gallai'r siop gael ei chau am byth, felly mae'n bryd i'r corachod a'r crydd weithio gyda'i gilydd i achub eu cartref!

Mae'r antur 50 munud ddyfeisgar a hynod ryngweithiol hon – sy'n llawn doniolwch, pypedwaith a byd bach hudolus – yn wledd berffaith i'r teulu adeg y Nadolig.

Deiliad y ffotograff: Craig Fuller

Tocynnau £11 | £9 | £36 Teulu

Pris grŵp o £9 yr un ar gyfer grwpiau o 10+

Info Cyflym

  • Cwmni: Exeter Northcott Theatre
  • Categori: Family
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Exeter Northcott Theatre
  • Categori: Family
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen