The Late Christopher Bean
Mae Grŵp Theatr Phoenix Llanelli yn cyflwyno
Comedi Emlyn Williams, The Late Christopher Bean
Ac yntau heb yr un ddimai, mae'r artist Christopher Bean yn cael llety gan deulu parchus ac mae ar ei hôl hi mewn sawl ystyr! Ar ôl iddo farw, mae ei ddawn yn cael ei darganfod gan y byd celf ac mae'n cael ei ystyried yn artist uchel ei barch gyda phaentiadau gwerth miloedd o bunnoedd. Mae'r clasur o ddrama gan Emlyn Williams yn gomedi foesau (moesau drwg yn aml), sy'n mynd ati gydag arddeliad i greu darlun clir o ramant, trachwant ac ymhongarwch.
Mae The Late Christopher Bean, a gafodd ei haddasu o ddrama Ffrangeg gan Rene Fauchois, yn gomedi fywiog sy'n cynnig cipolwg ar foesau sy'n dal i fod yn berthnasol heddiw.
Ymunwch â ni am noson llawn chwerthin, troeon annisgwyl a gwirioneddau doniol iawn, hyd at y cyffyrddiad brwsh olaf wrth i'r llen ddisgyn.
Cynhyrchiad
amatur
Tocynnau £15
- 13 Mai, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
- 14 Mai, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
- 15 Mai, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
- 16 Mai, 15:00 ARCHEBWCH NAWR
- 16 Mai, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: PHOENIX THEATRE GROUP
- Categori: Comedy
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
Info Cyflym
- Cwmni: PHOENIX THEATRE GROUP
- Categori: Comedy
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni