The Little Mermaid Jr

New Heights Performance Academy yn cyflwyno The Little Mermaid Jr gan Disney.

Plymiwch o dan y tonnau ac ymunwch â ni am antur fythgofiadwy gyda Disney's The Little Mermaid Jr.!

Wedi'i pherfformio gan fyfyrwyr talentog New Heights Performance Academy, mae'r sioe gerdd hudolus hon yn dod â stori annwyl Ariel, môr-forwyn ifanc chwilfrydig sy'n breuddwydio am archwilio'r byd uwchben y môr, yn fyw. Yn llawn cymeriadau cofiadwy, caneuon gwych, gwisgoedd disglair, a digon o chwerthin, mae'r cynhyrchiad hwn sy'n addas i'r teulu yn dathlu dewrder, cyfeillgarwch, a mynd ati i ddilyn eich breuddwydion.

Mae ein cast wedi gweithio'n ddiflino i greu profiad hudolus i gynulleidfaoedd o bob oedran. Trwy ymroddiad, creadigrwydd a gwaith tîm, mae'r perfformwyr ifanc hyn wedi datblygu eu sgiliau ar y llwyfan ac oddi ar y llwyfan, gan arddangos yr hyder a'r dalent y mae New Heights Performance Academy yn falch o'u meithrin.

Cynhyrchiad ieuenctid

Iaith Arwyddion Prydain: 30 Hydref 1pm
Beth yw perfformiad wedi'i gyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain (BSL)? Ym mherfformiadau Iaith Arwyddion Prydain, mae arwyddwyr hyfforddedig yn cyfieithu'r sgript a'r iaith a ddefnyddir gan y perfformwyr wrth i hynny ddigwydd. Fel arfer, bydd y cyfieithydd yn sefyll neu'n eistedd ar ochr y llwyfan. Gofynnwch i'n tîm yn y swyddfa docynnau wrth i chi archebu, fel y gallwn ddweud wrthych ble sydd orau i eistedd. Gyda dehongliad BSL gan Simon Johanson.

Perfformiad hamdennol: 30 Hydref 1pm
Beth yw perfformiad hamddenol? Mae perfformiadau hamddenol yn agored i bawb, ac wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant, pobl ifanc neu oedolion a allai fod ag anableddau, anghenion cymorth ychwanegol a'r rheiny sydd ar y sbectrwm awtistig. Cysylltwch â'n swyddfa docynnau am ragor o wybodaeth.


Tocynnau £15

Eistedd ar Liniau: Os ydych chi'n dod â phlentyn 18 mis oed neu iau, gall fynd gyda chi am ddim os ydych chi'n dewis y tocyn eistedd ar liniau. Sylwer, dim ond ar y llawr gwaelod y gall plant eistedd ar liniau oedolion.

Info Cyflym

  • Cwmni: New Heights Performance Academy
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: New Heights Performance Academy
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli