The Mab
The Mab
Antur chwedlonol trwy Annwn lle ni’n cyfarfod â gwrachod, cewri a brenhinoedd. Teithiwch drwy straeon hudolus y Mabinogi gyda cherddoriaeth fyw, pypedwaith a hud a lledrith mewn cynhyrchiad llwyfan newydd sy’n llawn cyffro.
Yn 11 oed ac wedi blino ar oedolion yn gwneud penderfyniadau drosti, mae Seren yn flin. Yn sydyn, mae taranau’n taro, gwrachod yn ymddangos, ac nid yw ei mam i’w gweld yn unman. Ymunwch â Seren ar ei hymdrech drwy chwedlau’r Mab i achub ei mam rhag y Grafanc.
Wedi'i ysbrydoli gan y casgliad poblogaidd o straeon a olygwyd gan Matt Brown ac Eloise Williams.
Stori a ddywedir drwy BSL (Iaith Arwyddion Prydain), Saesneg a Chymraeg. Mae The Mab yn gynhyrchiad newydd cyffrous i’r holl deulu ei fwynhau.
Mae gan bob perfformiad hygyrchedd creadigol integredig, gan gynnwys BSL integredig, Sain Ddisgrifiad a Chapsiynau Creadigol Mae The Mab yn gynhyrchiad gan Theatr Taking Flight, Canolfan Celfyddydau a Theatr Glan yr Afon, a Theatrau Sir Gâr.
Ariennir y cynhyrchiad hwn gan Gronfa Cynyrchiadau Mawr Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusenol Colwinston.
Tocynnau: Cynnar £14.50 | £12.50 (mae tocynnau'n cynyddu £2 o 5 Ionawr 2026)
- 24 Chwe, 18:30 ARCHEBWCH NAWR
- 26 Chwe, 17:30 ARCHEBWCH NAWR
- 27 Chwe, 13:00 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Taking Flight, Riverfront and Theatrau Sir Gar
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli
Info Cyflym
- Cwmni: Taking Flight, Riverfront and Theatrau Sir Gar
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli