The Spooky Men's Chorale

Mae The Spooky Men's Chorale, sydd mor fyddarol â haid o gnwod, mor gyfrwys â llond cart o bobl fel Spike Milligan ac mor soniarus â mynachlog o fynachod, yn dal i ddiddanu a rhoi boddhad.

Yn wreiddiol o'r Blue Mountains yn Ne Cymru Newydd, daethon nhw i'r amlwg yn 2021, yn parablu'n ddwl, gyda dim byd ond eu lleisiau, eu hiwmor difynegiant a'u cyfres o hetiau annhebyg, ac maen nhw wedi bod yn mynd ati'n llawen i gyffroi cynulleidfaoedd ym mhobman byth ers hynny.

Ffurfiwyd y grŵp gan y spookmeister, Stephen Taberner, a aned yn Seland Newydd, ac yn fuan iawn denodd y dynion Spooky sylw atynt eu hunain, gan berfformio cyfuniad deallus o ganeuon "bwrdd" Georgaidd, baledi hynod o hardd, fersiynau amhriodol iawn o ganeuon eraill, a bwndel o ganeuon gwreiddiol sy'n ceisio dathlu'r "boof" a gwneud hwyl am ei ben.

Mae CV The Spooky Men yn cynnwys naw taith yn y DU, chwe CD, sioeau poblogaidd mewn lleoliadau theatrig megis Melbourne Recital Centre lle mae'r holl docynnau wedi'u gwerthu, ac ymddangosiadau mewn gwyliau sy'n rhy niferus i sôn amdanynt. Wrth wynebu argyfwng canol oed, dewison nhw beidio â bod yn fand teyrnged iddyn nhw eu hunain, ond yn hytrach aethon nhw ati i ddod o hyd i safbwyntiau dyfnach, mwy newydd, mwy hurt, fel y rhai a geir yn eu halbwm diweddaraf, Welcome to the Second Half.

Yn enwog am gyfuniad o ymffrostio Fisigothig, hiwmor hurt, a thynerwch sy'n dod â dagrau i'r llygaid, mae'r Spookies, sydd yn eu canol oed ac wedi'u hatgyfnerthu â chenhedlaeth ifanc ryfeddol newydd, yn fwy o feistri ar eu maes nag erioed o'r blaen. Byddan nhw'n ychwanegu'n ofalus at eu catalog o ganeuon tywyll poblogaidd a fydd yn cynnwys cyrchoedd newydd ar harddwch a thwpdra, fel myffin siocled sy'n cynnwys darnau o siocled ynddo. Mae'n rhaid i chi eu gweld, yn wir i chi, mae'n rhaid.

“Inspired – and a triumph of choreography! Catch them on the road – a fantastic night out is guaranteed!” Mark Radcliffe, BBC Radio 2

“High camp, epic folly – probably the best programming choice of the entire summer festival circuit’– The Irish Times

“Highly theatrical, they veer from weird to touching and back again. Grown up entertainment in the best, most infantile way. Don’t miss an opportunity to see them.” 

– Daily Telegraph


Tocynnau | £25 | £23 | £13 o dan 30

Info Cyflym

  • Cwmni: Alan Bearman Music
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Alan Bearman Music
  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen