The UK Pink Floyd Experience

Gan ddathlu dros 50 mlynedd o un o'r bandiau mwyaf dylanwadol yng ngherddoriaeth roc, mae UK Pink Floyd Experience yn ail-greu golygfeydd a synau'r band eiconig mewn cyngerdd.

Mae'r sioe hon wir yn ail-greu awyrgylch perfformiadau byw Floyd. Mae'r sioe yn cynnwys y cerddorion gorau, tafluniadau fideo arbennig, sioe oleuadau drawiadol ac wrth gwrs, dros ddwy awr o gerddoriaeth anhygoel!

Dewch i rannu eich hoffter o gerddoriaeth Pink Floyd wrth i un o albymau mwyaf eiconig y band, sef The Dark Side Of The Moon gael ei chwarae yn ei gyfanrwydd. Wrth gwrs, ni fyddai sioe Pink Floyd yn gyflawn heb y clasuron, gan gynnwys Wish You Were Here, Shine On You Crazy Diamond, Another Brick In The Wall a Comfortably Numb.

Mae'r sioe syfrdanol hon yn ddathliad triw o bob peth sy'n gysylltiedig â Pink Floyd, gan gyflwyno dawn gerddorol o'r radd flaenaf, lleisiau gwych a chynhyrchiad arbennig.

Dyddiadau Sioe

Info Cyflym

  • Cwmni: Prestige Productions
  • Categori: LIVE MUSIC
  • Theatr: The Lyric Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Prestige Productions
  • Categori: LIVE MUSIC
  • Theatr: The Lyric Carmarthen